
Mae poen cefn yn broblem fawr i Gymru. Mae yna gost i unigolion, sy’n gallu cynnwys salwch corfforol a meddyliol a diweithdra, ac mae yna gost ariannol ehangach i’r economi yng Nghymru.
Mae poen cefn yn gyffredin a 70% yw ffigur y tebygolrwydd y byddwn yn ei ddatblygu yn ystod ein bywyd. Yn gyffredinol, disgwylir i bobl wella ond mae yna dystiolaeth gref bod gwybodaeth anghywir am boen cefn yn gallu bod yn rhwystr gwirioneddol i bobl rhag gwella.

Rwy'n cefnogi "Cefnau Cymru" oherwydd yng Nghymru am y tro cyntaf erioed, eir i'r afael â'r pethau niweidiol hyn y mae pobl yn ei gredu drwy ddefnyddio pob math o ymgyrchoedd addysgol ac ymgyrchoedd penodol drwy'r cyfryngau, sydd wedi bod mor llwyddiannus yn Awstralia, Canada a'r Alban o ran lleihau lefel anabledd pobl sydd â phoen cefn. Mae pob rheswm i gredu y bydd "Cefnau Cymru" yn lleihau baich poen cefn yng Nghymru, gan gyfrannu'n sylweddol at wella iechyd a lles pobl yng Nghymru.