Cefnau Cymru

Dr. Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru

Mae poen cefn yn broblem fawr i Gymru. Mae yna gost i unigolion, sy’n gallu cynnwys salwch corfforol a meddyliol a diweithdra, ac mae yna gost ariannol ehangach i’r economi yng Nghymru.

Golfing
Dr Tony Jewell

Mae Cefnau Cymru wedi'i gynllunio i helpu unigolion sy'n dioddef o boen cefn yn ogystal â rhoi gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr ar y ffordd orau o helpu pobl i gadw'n brysur er gwaethaf poen cefn.

Yn draddodiadol, gorffwys yn y gwely oedd y ffordd o wella poen cefn, ac er bod llawer yn dal o'r farn hon, mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cytuno bellach bod y dystiolaeth yn dangos mai'r ffordd orau o wella yw cadw'n brysur a byw bywyd mor normal â phosibl.

Bydd Cefnau Cymru yn codi ymwybyddiaeth o'r newid hwn drwy ymgyrch amlgyfrwng gan gynnwys hysbysebion teledu, pecynnau gwybodaeth a gwefan, ac er bod yr wybodaeth hon wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer Cymru, mae'n seiliedig ar ymgyrchoedd llwyddiannus yn yr Alban ac Awstralia. Rwy'n siwr y gallwn ail-greu'r llwyddiant hwnnw a helpu i leihau baich poen cefn ar Gymru.

Dr Sally Venn
Mae angen treulio amser gyda'r cleifion er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn ac ategu'r cyngor i gadw'n brysur. Rwy'n croesawu ymgyrch 'Cefnau Cymru' sy'n peri ei bod yn haws i'r cyhoedd gael gafael ar y cyngor hwn ac sy'n tawelu meddwl pobl sy'n dioddef o boen cefn mai cadw'n brysur yw'r peth iawn i'w wneud yn bendant!
Rob Sayers

Gweinyddwr Swyddfa a Cherddor

Roy Noble
Cyflwynydd BBC Radio Wales