
Mae poen cefn yn broblem fawr i Gymru. Mae yna gost i unigolion, sy’n gallu cynnwys salwch corfforol a meddyliol a diweithdra, ac mae yna gost ariannol ehangach i’r economi yng Nghymru.
Mae'r farn arbenigol ar boen cefn wedi newid o ran sut mae modd rheoli, gwella ac atal poen cefn. Mae tystiolaeth i gefnogi'r theori y dylid cadw'n brysur er mwyn gwella poen cefn yn gynt.
Gall cyfnodau hir o wneud dim ymestyn cyfnodau o boen cefn a gwneud y cyhyrau'n wannach ac yn wannach. Mae gwneud dim hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y boen yn dod yn ôl. Drwy gymryd y poenladdwyr priodol a chadwch yn brysur drwy wneud pethau arferol, mae'n fwy tebygol y byddwch yn gwella'n gyflym ac yn llwyr.