Cefnau Cymru

Meddwl yn gadarnhaol

Mae hon yn dechneg i'w defnyddio pan fyddwch chi'n sylweddoli eich bod yn meddwl yn negyddol ac yn ddinistriol. Yn aml bydd pobl sydd â chyflyrau tymor hir fel poen cefn difrifol yn meddwl pethau fel:

"Does dim pwynt i mi drio garddio, mae'n rhy boenus i mi blygu i lawr"

neu

"Allaf i ddim gwneud y pethau o'n i'n arfer eu gwneud, bydd fy mywyd i fyth yr un fath eto"

Mae dwy ffordd y gallwch chi feddwl yn fwy cadarnhaol.

Y gyntaf yw trosi'r meddyliau negyddol yn uniongyrchol yn rhywbeth cadarnhaol. Felly ar gyfer y ddwy enghraifft uchod, gallech chi eu newid fel hyn:

"Rwyf i'n dal i fedru gwneud rhai pethau yn yr ardd, fe gaf i flychau ffenest fel bod dim angen i mi blygu, a chymryd fy meddyginiaeth poen cyn dechrau".

"Rwyf i'n dal i fedru gwneud llawer o bethau, dyw fy mywyd i ddim ar ben, mae'n wahanol"

Yr ail ffordd yw drwy ddefnyddio ymadroddion cadarnhaol. Dywediadau yw'r rhain i chi eu defnyddio i herio eich meddyliau negyddol, er enghraifft:

"ymlaen!"

"chwiliwch am y da bob dydd"

"am fy mod i'n ei haeddu"

Dywedodd Gareth o Dorfaen wrthym "Fe ysgrifennais i fy holl ymadroddion cadarnhaol ar nodiadau post-it a'u gosod o gwmpas y ty i fy atgoffa i. Nawr, pan rwy'n dal fy hun yn meddwl yn negyddol, fe allaf i ei newid yn syth i rywbeth llawer mwy cadarnhaol. Fyddwn i erioed wedi meddwl y gallai techneg fel hon fod mor bwerus."

Dr Tony Jewell
Mae poen cefn yn broblem fawr i Gymru. Mae yna gost i unigolion, sy’n gallu cynnwys salwch corfforol a meddyliol a diweithdra, ac mae yna gost ariannol ehangach i’r economi yng Nghymru.
Sasha Perriam
Rheolwr Swyddfa
Bonnie Tyler
Cantores