Cefnau Cymru

Gweithgarwch corfforol

Mae'n bwysig parhau i fod yn gorfforol weithredol. Gall hyn fod yn anodd pan rydych chi mewn poen, ond mae modd cyflwyno ymarfer corff ysgafn er mwyn cryfhau ac ystwytho. Mae'n bwysig dechrau o ble'r ydych chi HEDDIW, ac nid y tro diwethaf y buoch chi'n gwneud ymarfer corff neu weithgarwch corfforol - gallai hynny fod beth amser yn ôl pan oeddech chi'n fwy ffit, felly dechreuwch yn araf deg gan adeiladu'n raddol. Er enghraifft, ar gyfer ymarfer sy'n cryfhau'r breichiau, gwnewch ymarferion heb unrhyw bwysau o gwbl, yna cyflwynwch ychydig o bwysau ysgafn dros rai dyddiau.

Dylech siarad â'ch darparwr gofal iechyd cyn gwneud unrhyw ymarfer corff/gweithgarwch newydd neu wahanol.

Click to view interactive exercise sheets

Ar ôl cael damwain car roedd gan Pauline o Ynys Môn boen drwg yn ei chefn, ac meddai - "drwy weithio gyda fy ffisiotherapydd a defnyddio rhai o'r enghreifftiau o lyfr cwrs y Rhaglen Cleifion Arbenigol, rwy'n fwy gweithredol yn gorfforol ac mae hynny'n fy helpu i reoli fy mhoen lawer iawn yn well o ddydd i ddydd".

Prof Mansel Aylward

Welsh Backs will contribute substantially to improving the health and well being of people in Wales
Dwi nawr yn deall mai cadw'n brysur yw'r driniaeth orau ar gyfer fy mhoen.
Gabby Logan
Cyflwynydd Chwaraeon