Cefnau Cymru

Os oes gennych boen yn eich cefn?

Os ydych chi'n dioddef o boen cefn, neu'n nabod rhywun sy'n dioddef, mae llawer y gallwch ei wneud i'ch helpu eich hun. Mae'r rhan hon yn rhoi cyngor ar sut i reoli eich poen cefn yn fwy effeithiol.

Mae cadw'n brysur yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol, ond y neges syml yw 'gwnewch y pethau arferol'. Peidiwch â bod ag ofn mynd â'r ci am dro, cerdded i'r gwaith neu fynd i nofio - hyd yn oed os yw'n boenus. Dyma'r peth gorau y gallwch chi ei wneud er mwyn gwella'n gynt.

'Dydy poen ddim yn golygu eich bod chi'n gwneud niwed'

Dydy'r ffaith eich bod mewn poen ddim yn golygu eich bod chi'n gwneud niwed parhaol. Does dim byd o'i le mewn cymryd poenladdwyr siop i'ch helpu i wneud pethau arferol a gwella'n gynt. Mae'r daflen wybodaeth i'r cyhoedd yn rhoi cyngor clir, cryno ac mae modd ichi ei lawrlwytho.

Os yw'n well gennych, gallwch archebu copi caled yma.

Mae taflen wybodaeth i'r cyhoedd ar gael i'w lawrlwytho neu gallwch ofyn am gopi caled ohoni.
Terry Rose
Mae anafiadau i'r cefn yn broblem gyffredin iawn y gellir ei hosgoi yn aml yn y gweithle drwy wneud newidiadau syml i swyddi a chael yr hyfforddiant a'r offer iawn.
Dwi’n mwynhau mynd i’r gampfa yn rheolaidd yn ogystal â marchogaeth a golff ac yn ceisio cadw mor brysur â phosib.