Cefnau Cymru

Cyfathrebu

Gall defnyddio negeseuon 'fi' fod yn ffordd effeithiol o ddweud wrth bobl o'ch cwmpas sut rydych chi'n teimlo neu os oes angen help (neu beidio) arnoch chi. Mae dechrau sgwrs drwy sôn amdanoch eich hun yn gallu meddalu'r hyn rydych chi'n ei ddweud ac mae'n swnio'n llai ymosodol na brawddeg sy'n dechrau â 'chi'. Er enghraifft: yn lle dweud "Dydych chi byth yn gwrando arna i a dydych chi ddim yn gwybod sut rwy'n teimlo", gallech chi ddweud "rwy'n teimlo nad oes neb yn fy nghlywed i ac nad oes neb yn deall fy nheimladau i".

Mae Iwan Roberts (35) yn wreiddiol o Fangor wedi dioddef o boen cefn yn achlysurol ers 14 mlynedd.
mae dal ati gyda'ch gweithgareddau dyddiol yr un mor bwysig.