Cefnau Cymru

Anadlu'n well

Wrth brofi poen, mae llawer o bobl yn tynhau ac yn dechrau anadlu'n gyflymach. Mae'r dechneg hon, sef Anadlu'n Well, yn caniatáu i chi reoli eich anadlu drwy ddefnyddio cyfuniad o grychu gwefus ac anadlu llengigol. Dyma lle'r ydych chi'n anadlu i mewn drwy eich trwyn ac yna allan yn araf drwy wefus wedi crychu (fel pe baech chi ar fin chwibanu, ond yn ysgafnach o lawer - meddyliwch am wneud i fflam cannwyll grynu heb ei diffodd) dylai gymryd ddwywaith hirach i chi anadlu allan nag anadlu i mewn. Hefyd, wrth anadlu i mewn, dylech deimlo eich bol yn llenwi allan yn hytrach na'ch brest - fel babi newydd-anedig - gallwch weld ei fol yn symud i fyny ac i lawr ond mae'r gawell asennau yn aros yn llonydd.

Terry Rose
Mae anafiadau i'r cefn yn broblem gyffredin iawn y gellir ei hosgoi yn aml yn y gweithle drwy wneud newidiadau syml i swyddi a chael yr hyfforddiant a'r offer iawn.
Dwi’n mwynhau mynd i’r gampfa yn rheolaidd yn ogystal â marchogaeth a golff ac yn ceisio cadw mor brysur â phosib.