Cefnau Cymru

Cynllunio gweithredu

Cynllunio gweithredu - mae hyn yn golygu pennu gweithredoedd tymor byr penodol iawn i'ch helpu chi i gyflawni nod tymor hirach. Er enghraifft, er mwyn cyrraedd nod o gerdded i'r parc ac yn ôl, gallai eich cynllun gweithredu cyntaf gynnwys: cerdded, 20 metr, ar ôl cinio, dair gwaith yr wythnos. Yna gallwch adeiladu ar hyn bob wythnos nes eich bod chi'n cyflawni eich nod. Mae angen i gynllun gweithredu llwyddiannus gynnwys y canlynol:

  • Mae angen iddo fod yn rhywbeth rydych chi wirioneddol am ei wneud, nid rhywbeth mae eich partner, eich meddyg teulu neu gyfeillion yn meddwl y dylech chi ei wneud - ond rhywbeth rydych CHI am ei wneud.
  • Rhaid i'ch cynllun fod yn gyraeddadwy ac nid yn 'freuddwyd gwrach'
  • . Rhaid iddo fod yn 'weithred', felly er enghraifft os mai gwella ffitrwydd yw eich nod, yna gallai'r weithred fod: 'mynd ar fy meic ymarfer', felly mae'r weithred yn gam tuag at gyflawni eich nod terfynol.
  • Unwaith rydych chi wedi penderfynu ar y weithred, yna mae angen i chi benderfynu:
    • 'faint', rhaid i hwn fod yn fesuradwy, felly gallai olygu amser, pellter neu nifer.
    • 'pryd' rydych chi am ei wneud, unwaith eto mae angen i hwn fod mor benodol â phosibl, felly fe allech chi benderfynu 'ar ôl brecwast', 'rhwng 2pm a 3pm' neu 'pan fydd Coronation St ymlaen'.
    • 'pa mor aml' - dyma'r nifer o weithiau mewn wythnos fyddwch chi'n ei wneud. Ddylech chi ddim gosod cynllun gweithredu ar gyfer pob dydd oherwydd . mae bywyd yn digwydd! Ac mae pethau yn dod ar eich traws. Mae'n well cynllunio i wneud rhywbeth 3-5 o weithiau dros wythnos.
  • Pan fyddwch chi wedi pennu holl rannau eich cynllun gweithredu, y peth olaf i'w benderfynu yw, 'pa mor hyderus ydych chi' eich bod chi'n mynd i gwblhau'r HOLL gynllun. Felly os yw 1 = dim hyder o gwbl a 10 = hyder llwyr, yna dylech chi osod eich cynllun ar lefel sydd o leiaf 7 allan o 10. Os ydych chi'n teimlo nad yw eich hyder mor uchel â hynny, meddyliwch am newid y cynllun, drwy newid 'faint' neu'r nifer o weithiau mewn wythnos.

Dywedodd Brian o Abertawe "Mae Cynllunio Gweithredu wir wedi fy helpu i fy amseru fy hun er mwyn peidio â gorwneud pethau a diweddu mewn mwy o boen nag o'r blaen. Mae hefyd yn rhoi ymdeimlad gwych o lwyddiant i mi pan fyddaf i'n cyflawni'r pethau rwyf i wirioneddol am eu gwneud".

Dr Tony Jewell
Mae poen cefn yn broblem fawr i Gymru. Mae yna gost i unigolion, sy’n gallu cynnwys salwch corfforol a meddyliol a diweithdra, ac mae yna gost ariannol ehangach i’r economi yng Nghymru.
Sasha Perriam
Rheolwr Swyddfa
Bonnie Tyler
Cantores