Mae Sasha Perriam (31) o Groesfaen wedi dioddef â'i chefn yn gyson ers y ddwy flynedd diwethaf. Argymhellodd ei meddyg ei bod yn gwneud ymarfer ysgafn i ddelio gyda'r broblem. Mae'n dal ati i gadw'n brysur yn y gobaith y bydd hyn yn ei harbed rhag unrhyw broblemau pellach yn y dyfodol.
Er nad yw'n credu bod eistedd wrth ei desg yn helpu ei phoen, nid yw Sasha wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o'i gwaith oherwydd ei phoen cefn.
"Dwi'n trio cymryd egwyl bob amser cinio a cherdded o gwmpas y swyddfa yn gwneud te - sydd yn helpu fy nghefn ac yn fy ngwneud yn eithaf poblogaidd ymysg fy nghydweithwyr."
Yn ddiweddar mae Sasha wedi dechrau nofio a gwneud pilates.
"Dwi'n gobeithio na fydd fy mhoen cefn yn dod nôl os dwi'n dal ati gyda'r ymarfer cyson."