
Mae poen cefn yn broblem fawr i Gymru. Mae yna gost i unigolion, sy’n gallu cynnwys salwch corfforol a meddyliol a diweithdra, ac mae yna gost ariannol ehangach i’r economi yng Nghymru.
"Mae'r ymgyrch yn syniad gwych mae'n amlwg nad oes digon o ddealltwriaeth o beth i'w wneud pan mae gennych boen cefn."
"O brofiad personol gall poen cefn ddigwydd unrhyw bryd, mae'n fy nharo i ar adegau rhyfedd. Dwi naill ai yn y gawod yn ymestyn am y sebon neu yn penlinio lawr mewn cae o fafon tra yn ffilmio a dwi'n cael poen yn fy nghefn!"
"Mae'r ymgyrch yn syniad gwych mae'n amlwg nad oes digon o ddealltwriaeth o beth i'w wneud pan mae gennych boen cefn. Yn sicr mae cadw'n brysur yn gymorth. Rwy'n mynd a ci fy mab am dro a nofio dwywaith yr wythnos. Heb os, mae'r gweithgareddau yma wedi helpu cael gwared â'r broblem."