
Mae poen cefn yn broblem fawr i Gymru. Mae yna gost i unigolion, sy’n gallu cynnwys salwch corfforol a meddyliol a diweithdra, ac mae yna gost ariannol ehangach i’r economi yng Nghymru.
"Dwi nawr yn deall mai cadw'n brysur yw'r driniaeth orau ar gyfer fy mhoen. Dwi'n ceisio dal ati gyda fy ngweithgareddau dyddiol a cherdded i'r Brifysgol bob dydd."
Mae Patrick Carlin (40) yn fyfyriwr aeddfed yn Aberystwyth. Mae wedi dioddef o boen cefn yn achlysurol am 5 mlynedd. Mae wedi ymweld â'i feddyg pan yn dioddef yn ofnadwy ac wedi cael ei gynghori i gadw'n brysur er mwyn helpu iddo wella ynghynt.
"Dwi ddim yn gwybod cymaint â hynny am boen cefn, felly pan dwi wedi dioddef fy hun dwi wastad wedi bod yn siwr beth yw'r driniaeth orau. Oherwydd fy anwybodaeth dwi wedi tueddu i aros yn fy ngwely gyda rhywbeth oer a phoeth ar y man sydd yn dioddef!"
Nawr mae Patrick yn sylweddoli mai dim dyma'r ateb er mwyn gwella'n gyflym. Mae nawr yn cerdded yn ddyddiol i fyny rhiw Penglais yn Aberystwyth.
"Dwi nawr yn deall mai cadw'n brysur yw'r driniaeth orau ar gyfer fy mhoen. Dwi'n ceisio dal ati gyda fy ngweithgareddau dyddiol a cherdded i'r Brifysgol bob dydd."