
Mae anafiadau i'r cefn yn broblem gyffredin iawn y gellir ei hosgoi yn aml yn y gweithle drwy wneud newidiadau syml i swyddi a chael yr hyfforddiant a'r offer iawn.
"Dwi’n mwynhau mynd i’r gampfa yn rheolaidd yn ogystal â marchogaeth a golff ac yn ceisio cadw mor brysur â phosib."
Mae Juliet Gamlin (42) yn wreiddiol o Lundain ond yn awr yn byw yng Nghymru. Mae wedi dioddef â'i chefn ers 10 mlynedd.
"Ibuprofen yw'r peth gorau ar gyfer lleddfu fy mhoen, ond rwyf hefyd wedi gweld ffisiotherapydd yn yr ysbyty er mwyn cael sgan MRI."
Mae swydd Juliet fel Peiriannwr yn galed iawn ac mae ganddi lawer o gyfrifoldebau, felly nid yw'n gallu fforddio cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i orffwys. Beth bynnag, mae'n deall y gall cadw'n brysur ei helpu i wella'n gyflymach:
"Dwi'n ymwybodol bod rhaid symud i wella eich poen cefn, ond gall fod yn anodd ar adegau gan bod y boen mor ddifrifol. Dwi'n mwynhau mynd i'r gampfa yn rheolaidd yn ogystal â marchogaeth a golff ac yn ceisio cadw mor brysur â phosib."
