Cefnau Cymru

Iwan Roberts

"Dwi'n ffeindio nad ydi o'n brifo os dwi'n ymarfer yn gyson"

Mae Iwan Roberts (35) yn wreiddiol o Fangor wedi dioddef o boen cefn yn achlysurol ers 14 mlynedd. Dywedodd:

"Dwi'n ffeindio nad ydi o'n brifo os dwi'n ymarfer yn gyson. Cefais boen ofnadwy yn 1992 a 2006 ac fe fues at y meddyg ar y ddau achlysur."

Cafodd Iwan broblemau difrifol wrth symud yn ystod ei bwl diweddar. Unwaith bu raid iddo adael ei waith yn gynnar, a phan gyrhaeddodd adref fe gymerodd awr iddo newid o’i ddillad gwaith:

"Dim ond siorts yr oeddwn i’n gallu ei wisgo am dair wythnos gan ei fod yn brifo cymaint wrth blygu i roi trowsus hir ymlaen."

Mae'n credu bod llawer o bobl dal yn anwybodol o'r ffordd orau o ddelio gyda phoen cefn, ond mae'n deall bod cadw'n brysur yn gallu cynyddu eich ystod o symudiadau a'ch helpu i wella. Mae Iwan yn ymarfer tair gwaith yr wythnos:

"Dwi'n mynd i ddosbarth 'circuit training' ar Ddydd Llun a Dydd Mercher a dosbarth 'boxercise' ar Ddydd Gwener ac yn ceisio mynd am dro am 30 munud bob amser cinio."

Mae Iwan Roberts (35) yn wreiddiol o Fangor wedi dioddef o boen cefn yn achlysurol ers 14 mlynedd.
mae dal ati gyda'ch gweithgareddau dyddiol yr un mor bwysig.