
Welsh Backs will contribute substantially to improving the health and well being of people in Wales
Pan fyddwch yn wynebu'r her o ffermio 1600 o aceri o fryniau yng Ngogledd Cymru, y peth diwethaf sydd ei angen arnoch yw cefn drwg.
Mae Hedd Pugh yn gwybod yn rhy dda y gall poen cefn eich taro pan nad ydych yn ei ddisgwyl.

"Ond mae natur ffermio yn golygu bod bywyd yn mynd yn ei flaen a bod yn rhaid i chi gario ymlaen â'r gwaith," meddai Mr Pugh, sydd wedi bod yn ffermio yn Ninas Mawddwy yng Ngwynedd ers dros 30 blynedd.
"Fy nghyngor i yw peidiwch â gadael i boen cefn eich digalonni. Pan fydd yn taro mae'n rhaid i chi wneud eich gorau i gadw i fynd. Dyna'r unig beth sy'n gweithio i mi."
Mae 1200 o ddefaid ar fferm Mr Pugh, felly ni all aros yn y gwely am y dydd.
"Dechreuais gael trafferth gyda'm cefn yn ystod fy ugeiniau cynnar ac mae'r math o beth nad yw byth yn eich gadael.
"Ond mae'n rhaid i chi ofalu am eich hun, cymryd gofal wrth godi pethau ac wrth wneud gwaith llaw. Y peth gorau bob amser yw cadw'n brysur ac yn weithgar."
Mae Mr Pugh, a oedd yn 50 oed ym mis Tachwedd, yn mynd i weld y meddyg esgyrn lleol yn achlysurol, ond fel arfer bydd yn dibynnu ar hunan-gymorth i drechu unrhyw broblemau cefn posibl.
"Mae poen yn rhywbeth anodd iawn i'w farnu a'i gymharu mewn gwahanol bobl. Mae gennym oll drothwyon poen gwahanol.
"Rwyf wedi canfod nad oes fawr o bwynt aros yn y gadair a rhewi pan fydd poen cefn yn taro. Mae'n rhaid i chi weithio eich ffordd drwyddo a mynd ymlaen â bywyd.
"Er enghraifft, ni fyddai unrhyw ffordd y gallwn feddwl am orwedd i lawr yn ystod cyfnod prysur fel y tymor cneifio defaid ym mis Mehefin.

"Mae'n waith caled ac yn cynnwys llawer o blygu a chodi, ond rydych yn mynd yn eich blaen ac mae symud yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau posibl."
Ychwanegodd Mr Pugh, sy'n aelod o Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (NFU Cymru) sy'n cefnogi'r fenter iechyd Cefnau Cymru bresennol: "Rydym i gyd yn wahanol, ond cyn belled â'm bod i yn y cwestiwn y cyngor yw cadw'n weithgar ac yn brysur."
Mae ymgyrch Cefnau Cymru y Llywodraeth i helpu'r Cymry i fynd i'r afael â thrafferthion cefn yn fenter ar y cyd sydd wedi'i datblygu mewn ymateb i Her Iechyd Cymru. Nod Cefnau Cymru yw lleihau'r baich corfforol a wynebir gan fwy na dwy ran o dair o boblogaeth Cymru a fydd yn dioddef o boen cefn ar ryw adeg.
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Cefnau Cymru ewch i http://www.cefnaucymru.com
Nodiadau'r golygydd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â COI News a PR Wales ar 0844 800 6823 neu anfonwch neges e-bost Wales@COI.gsi.gov.uk.