
Welsh Backs will contribute substantially to improving the health and well being of people in Wales
PEIDIWCH â dioddef, gall natur eich helpu drechu problemau cefn.
Mae gwirfoddolwyr cadwraeth yn Ne Cymru yn gefnogwyr brwd o'r fenter iechyd sy'n datgan, 'Peidiwch â gadael i boen cefn eich llorio!'
"Mae gwaith gwirfoddol yn yr awyr agored yn gyfle gwych i gael ymarfer corff gwerthfawr tra'n cyfrannu i'ch cymuned leol," meddai Keith Stockdale, cydgysylltydd gwirfoddolwyr ym Mharc Gwledig Fferm y Fforest yng ngogledd Caerdydd.
"Mae gennym lu o wirfoddolwyr yma sy'n credu mai codi oddi ar y soffa a mynd allan a byw bywyd gweithgar yw'r ffordd orau o ddelio â phroblemau cefn."
Mae Mr Stockdale, 54, yn gweithio i BTCV, sef Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain, elusen sy'n cynnal gwaith cadwraeth ledled Cymru.
Ar hyn o bryd mae swyddfa BTCV De-ddwyrain Cymru yn gweithio ar brosiectau yn ei bencadlys yn Fferm y Fforest ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr, y Pîl, Bannau Brycheiniog a Llanrhymni.
"Fel gwirfoddolwyr yn gweithio yn yr awyr agored, rydym yn cael gweld lleoedd nad yw'r rhan fwyaf o'r cyhoedd yn cael cyfle i'w gweld," dywedodd Mr Stockdale.
"Ond mae'n waith amrywiol a dywed y rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr a ddaw yma ei fod yn codi eu calon, yn ffordd dda o ddod allan o'r ty, o gadw'n weithgar a chael digon o awyr iach.
"Y cwbl sydd ei angen arnoch i fod yn wirfoddolwr yw'r parodrwydd i gymryd rhan. Rydym yn darparu pâr o esgidiau i wirfoddolwyr ac yn eu rhoi ar ben ffordd.
"Rydym yn ymwybodol iawn o iechyd ac yn darparu cyngor ar fwyta'n iach a digon o awgrymiadau ar drin gwaith ymarferol i'n gwirfoddolwyr."

Ychwanegodd Mr Stockdale: "Os oes unrhyw beth trwm sydd angen ei wneud yna rydym bob amser yn sicrhau ein bod yn rhannu'r llwyth. Mae'n hanfodol gofyn am help bob amser ac rydym yn sicrhau bod pobl yn edrych ar ôl eu cefnau."
Cytunodd y gwirfoddolwr Martin Cogin, 35, fod ysbryd tîm yn rhan annatod o weithio i BTCV.
Dywedodd Martin: "Dechreuais wirfoddoli ar ôl cael anaf i'r ymennydd mewn damwain ffordd yn 1991. Gofal piau hi bob amser ac mae'n hanfodol edrych ar ôl eich cefn.
"Mae cadw'n brysur, yn heini ac yn weithgar mor bwysig ac mae gweithio i'r gwirfoddolwyr yn gadael i mi wneud yn union hynny."

Roedd Natalie Harding, 29, ar ei diwrnod cyntaf gyda'r gwirfoddolwyr.
Dywedodd, "Dw i'n meddwl ei bod yn elusen wych i fod yn rhan ohoni. Yn sicr, bod yn weithgar yw'r peth gorau i'w wneud i edrych ar ôl eich cefn."
Ymunodd John Shapcott â'r gwirfoddolwyr ar ôl gyrfa mewn diwydiant trwm ac adeiladu.
"Mae'n ffordd hyfryd o gadw'n weithgar a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned mewn ffordd ymarferol iawn."
Ychwanegodd y gwirfoddolwr Mario Fiorillo, 48: "Gallaf argymell gweithio gyda'r gwirfoddolwyr cadwraeth. Mae cadw'n brysur ac yn actif, wrth gwrs, yn un o'r pethau gorau y gallwch eu gwneud i'ch helpu eich hun a chadw eich cefn yn iach."
Enw ymgyrch y Llywodraeth i helpu'r Cymry i fynd i'r afael â thrafferthion cefn yw Cefnau Cymru ac mae'n fenter ar y cyd sydd wedi'i datblygu mewn ymateb i Her Iechyd Cymru. Nod Cefnau Cymru yw lleihau'r baich corfforol a wynebir gan fwy na dwy ran o dair o boblogaeth Cymru a fydd yn dioddef o boen cefn ar ryw adeg.
Gallwch ddod yn wirfoddolwr BTCV drwy gysylltu â BTCV Cymru yn Y Ganolfan Cadwraeth, Ffordd Fferm y Fforest, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7JJ. Ffôn 029 2052 4268.