Cefnau Cymru

Os ydych yn weithiwr iechyd

Amcan Cefnau Cymru yw cefnogi gweithwyr iechyd i'ch helpu chi i drin cleifion sy'n ymgyflwyno â phoen cefn. Mae'r adran hon yn cynnig cyngor i chi a mynediad at adnoddau ar-lein i gynorthwyo'r ymgynghoriad, gan gynnwys cymorth desg rhyngweithiol.

Healthy Working Wales WebsiteCymru Iach ar Waith - Mae adnodd iechyd a gwaith ar-lein a chanolfan gyngor newydd ar gyfer gofal sylfaenol bellach ar gael. Mae'r ganolfan yn caniatáu i chi fynd at fodiwlau dysgu, cyngor arbenigol a chymhorthion desg am faterion iechyd a gwaith. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnwys cymorth desg rhyngweithiol Cefnau Cymru y gellir ei ddefnyddio i reoli cleifion â phoen aciwt yn rhan isaf y cefn. I ddefnyddio'r system, cliciwch yma (http://www.cymruiacharwaith.com).

Mae copi caled o'r cymorth desg ar gael hefyd, ac er nad yw'r wybodaeth yn newydd, mae'n gymorth cof defnyddiol a seilir ar dystiolaeth.

Cymorth desg meddygon teulu - lawrlwytho - Cynorthwyo eich cleifion Rheoli poen aciwt yng ngwaelod eich cefn... Maint: [94 KB] Math o Ffeil: [.pdf]

Gallwch archebu copïau o The Back Book am ddim ar-lein, a fydd yn helpu eich claf i wella a rheoli poen cefn. Gellir archebu copïau oddi wrth

Hefyd gallwch gyfeirio eich cleifion at ein gwefan (www.cefnaucymru.com) i gael rhagor o wybodaeth ynglyn â sut y gallant hwy reoli'r cyflwr eu hunain.

Prof Mansel Aylward

Welsh Backs will contribute substantially to improving the health and well being of people in Wales
Dwi nawr yn deall mai cadw'n brysur yw'r driniaeth orau ar gyfer fy mhoen.
Gabby Logan
Cyflwynydd Chwaraeon