Cefnau Cymru

Patrick Carlin

"Dwi nawr yn deall mai cadw'n brysur yw'r driniaeth orau ar gyfer fy mhoen. Dwi'n ceisio dal ati gyda fy ngweithgareddau dyddiol a cherdded i'r Brifysgol bob dydd."

Mae Patrick Carlin (40) yn fyfyriwr aeddfed yn Aberystwyth. Mae wedi dioddef o boen cefn yn achlysurol am 5 mlynedd. Mae wedi ymweld â'i feddyg pan yn dioddef yn ofnadwy ac wedi cael ei gynghori i gadw'n brysur er mwyn helpu iddo wella ynghynt.

"Dwi ddim yn gwybod cymaint â hynny am boen cefn, felly pan dwi wedi dioddef fy hun dwi wastad wedi bod yn siwr beth yw'r driniaeth orau. Oherwydd fy anwybodaeth dwi wedi tueddu i aros yn fy ngwely gyda rhywbeth oer a phoeth ar y man sydd yn dioddef!"

Nawr mae Patrick yn sylweddoli mai dim dyma'r ateb er mwyn gwella'n gyflym. Mae nawr yn cerdded yn ddyddiol i fyny rhiw Penglais yn Aberystwyth.

"Dwi nawr yn deall mai cadw'n brysur yw'r driniaeth orau ar gyfer fy mhoen. Dwi'n ceisio dal ati gyda fy ngweithgareddau dyddiol a cherdded i'r Brifysgol bob dydd."

Dr Sally Venn
Mae angen treulio amser gyda'r cleifion er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn ac ategu'r cyngor i gadw'n brysur. Rwy'n croesawu ymgyrch 'Cefnau Cymru' sy'n peri ei bod yn haws i'r cyhoedd gael gafael ar y cyngor hwn ac sy'n tawelu meddwl pobl sy'n dioddef o boen cefn mai cadw'n brysur yw'r peth iawn i'w wneud yn bendant!
Rob Sayers

Gweinyddwr Swyddfa a Cherddor

Roy Noble
Cyflwynydd BBC Radio Wales