Mae Hedd Pugh yn gwybod yn rhy dda y gall poen cefn eich taro pan nad ydych yn ei ddisgwyl.
Codwr pwysau: Hedd Pugh, Ffermwr o Ddinas Mawddwy yn gwneud ychydig o waith adeiladu.
"Ond mae natur ffermio yn golygu bod bywyd yn mynd yn ei flaen a bod yn rhaid i chi gario ymlaen â'r gwaith," meddai Mr Pugh, sydd wedi bod yn ffermio yn Ninas Mawddwy yng Ngwynedd ers dros 30 blynedd.
"Fy nghyngor i yw peidiwch â gadael i boen cefn eich digalonni. Pan fydd yn taro mae'n rhaid i chi wneud eich gorau i gadw i fynd. Dyna'r unig beth sy'n gweithio i mi."
Mae 1200 o ddefaid ar fferm Mr Pugh, felly ni all aros yn y gwely am y dydd.
"Dechreuais gael trafferth gyda'm cefn yn ystod fy ugeiniau cynnar ac mae'r math o beth nad yw byth yn eich gadael.
"Ond mae'n rhaid i chi ofalu am eich hun, cymryd gofal wrth godi pethau ac wrth wneud gwaith llaw. Y peth gorau bob amser yw cadw'n brysur ac yn weithgar."
Mae Mr Pugh, a oedd yn 50 oed ym mis Tachwedd, yn mynd i weld y meddyg esgyrn lleol yn achlysurol, ond fel arfer bydd yn dibynnu ar hunan-gymorth i drechu unrhyw broblemau cefn posibl.
"Mae poen yn rhywbeth anodd iawn i'w farnu a'i gymharu mewn gwahanol bobl. Mae gennym oll drothwyon poen gwahanol.
"Rwyf wedi canfod nad oes fawr o bwynt aros yn y gadair a rhewi pan fydd poen cefn yn taro. Mae'n rhaid i chi weithio eich ffordd drwyddo a mynd ymlaen â bywyd.
"Er enghraifft, ni fyddai unrhyw ffordd y gallwn feddwl am orwedd i lawr yn ystod cyfnod prysur fel y tymor cneifio defaid ym mis Mehefin.
Drosodd â chi: Hedd Pugh, Ffermwr o Ddinas Mawddwy yn codi un o'i ddefaid i mewn i gorlan.
"Mae'n waith caled ac yn cynnwys llawer o blygu a chodi, ond rydych yn mynd yn eich blaen ac mae symud yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau posibl."
Ychwanegodd Mr Pugh, sy'n aelod o Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (NFU Cymru) sy'n cefnogi'r fenter iechyd Cefnau Cymru bresennol: "Rydym i gyd yn wahanol, ond cyn belled â'm bod i yn y cwestiwn y cyngor yw cadw'n weithgar ac yn brysur."
Mae ymgyrch Cefnau Cymru y Llywodraeth i helpu'r Cymry i fynd i'r afael â thrafferthion cefn yn fenter ar y cyd sydd wedi'i datblygu mewn ymateb i Her Iechyd Cymru.
Nod Cefnau Cymru yw lleihau'r baich corfforol a wynebir gan fwy na dwy ran o dair o boblogaeth Cymru a fydd yn dioddef o boen cefn ar ryw adeg.
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Cefnau Cymru ewch i http://www.cefnaucymru.com
Nodiadau'r golygydd
- Bydd poen cefn yn effeithio ar bron i 80% ohonom yn ystod ein bywydau ac mae'n debygol o ddigwydd fwy nag unwaith.
- Anaml y mae poen cefn yn ddifrifol ac mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i reoli eich poen.
- Os ydych chi'n dioddef o boen cefn, neu'n adnabod rhywun sy'n dioddef, mae llawer y gallwch ei wneud i'ch helpu eich hun. Mae taflenni gwybodaeth i'r cyhoedd ar gael drwy wefan Cefnau Cymru.
- Mae parhau yn weithgar yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ond y neges syml yw parhau fel y byddech fel arfer. Peidiwch ag ofni mynd â'r ci am dro, cerdded i'r gwaith, neu fynd i nofio - hyd yn oed os yw'n brifo. Dyna'r peth gorau y gallwch ei wneud i wella'n gyflym.
- 'Dydy poen ddim yn golygu eich bod chi'n gwneud niwed'. Nid yw'r ffaith eich bod mewn poen yn golygu eich bod chi'n gwneud niwed parhaol. Does dim byd o'i le mewn cymryd poenladdwyr cyffredin i'ch helpu i wneud pethau arferol a gwella'n gynt. Mae'r daflen wybodaeth i'r cyhoedd yn rhoi cyngor clir a chryno.
- Barn yr arbenigwyr. . . Mae Cefnau Cymru wedi'i datblygu drwy ymgynghori â grwp eang o randdeiliaid ac fe'i cefnogir gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn. Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru - "Cadwch yn brysur gan fyw bywyd mor normal â phosibl." Yr Athro Mansel Aylward, Cadeirydd, Canolfan Iechyd Cymru - "Bydd Cefnau Cymru yn cyfrannu'n sylweddol at wella iechyd a lles pobl yng Nghymru." Terry Rose, Cyfarwyddwr, Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Cymru a De-orllewin Lloegr - "Mae anaf i'r cefn yn broblem gyffredin iawn y gellir ei osgoi yn aml mewn gweithleoedd drwy newidiadau syml i gynllun gwaith, yr hyfforddiant cywir a'r offer cywir." Dr Sally Venn, meddyg teulu - "Rwy'n croesawu ymgyrch 'Cefnau Cymru', sy'n tawelu meddwl pobl sy'n dioddef o boen cefn mai cadw'n brysur yw'r peth iawn i'w wneud yn bendant!"
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â COI News a PR Wales ar 0844 800 6823 neu anfonwch neges e-bost Wales@COI.gsi.gov.uk.